|
Aneurin Jones RCA
Ganed Aneurin M. Jones
yn fab i ffermwr yng nghymdogaeth wledig Cwm Wysg, ar y ffin rhwng
yr hen siroedd Brycheiniog a Sir Gaerfyrddin. Cafod ei addysg uwchradd
yng Ngholeg Celf Abertawe rhwng y blynyddoedd 1950 a 1955. Yno bu'n
astudio celfyddyd gain, ac ar ol graddio treuliodd ddwy flynedd
gyda Celtic Studios yn cynllunio ffenestri gwydr am-liw ar gyfer
eglwysi ym Mhrydain, Canada a'r Unol Daleithau. Ef oedd pennaeth
yr Adran Gelfyddyd yn Ysgol y Preseli, Crymych, o'r agoriad ym mis
Medi 1958 tan Orffennaf 1986.
Y mae'r arlunydd yn arddangos ei waith
yn gyson yn yr Eisteddfod Genedlaethol a thra yn fyfyriwr ym 1954
enillodd yr ail wobr yn y gystadleuaeth fedal aur yn y dosbarth
celfyddyd gain agored.
"Mae crynswth fy ngwaith yn tarddu
o'r blynyddoedd ffurfiannol a dreuliais ym mro chwedlonol fy ngeni.
Er imi symud i ffwrdd i fynd i'r coleg ac yn y blaen , y mae rhan
ohonof nad adawodd fy mro enedigol o gwbl. Y tirwedd hwnnw a'i bobl
a'm creodd i bob pwrpas ~ eu straeon a daniodd fy nychymyg cynnar
a gwarineb eu cymdeithas a ffurfiodd fy neall.
Mae osgo a siap y cymeriadau gwledig
yn rhyfeddod parhaus imi , a dathlu'r cyffro creadigol hwnnw yw
sbardun fy mhaentiadau. Pethau sy'n ymwneud a'r bywyd hwnnw ~ pwer
y ceffyl, myfyrdod yr unigolyn mewn gwagle, ro'r tymhorau ~ yw themau
arhosol fy ngwaith.
Er fod dylanwad clasurol y Dadeni Dysg
ar yr addysg a dderbyniais yng Ngholeg Celf Abertawe , traddodiad
hyn a mwy lledrithiol yw'r un sy'n aflonyddu arnaf pan fo creadigrwydd
yn taro. Traddodiad y cyfarwydd yw hwnnw, traddodiad y dweud stori
a chadw'r cof. Yn hyn o beth, mae rhywbeth cyffrous ar droed pan
fo iaith a delwedd yn plethu."
|